Cwestiynau cyffredin a ofynnir am Fy Nghyfrif
Os ydych chi'n gwsmer mesuredig, ac rydym wedi cymryd darlleniad mesurydd yn ddiweddar, efallai y byddwn yn gallu eich ad-dalu neu adolygu eich taliadau. Os ydych chi wedi cael bil gennym ni yn ddiweddar, cysylltwch â ni a byddwn yn rhoi gwybod i chi beth allwn ni ei wneud.
Efallai y bydd eich cyfrif mewn credyd oherwydd eich bod wedi bod yn gwneud taliadau ar gynllun talu a fydd yn talu tuag at eich bil nesaf. Yn yr achos hwn, ni fyddwn yn gallu eich ad-dalu. Os nad oes gennych fesurydd dŵr a'ch bod mewn credyd, byddwn yn ei leihau'n awtomatig o'ch bil blynyddol nesaf sy'n cael ei anfon bob mis Chwefror/Mawrth. Os byddai'n well gennych gael ad-daliad, cysylltwch â ni a byddwn yn trefnu hyn i chi.
Os hoffech gael gwybod mwy am sut i leihau eich taliadau, mae mwy o wybodaeth ar y wefan yma.
Os hoffech ofyn am ad-daliad o falans eich cyfrif, gellir gwneud hyn trwy ddechrau sgwrs fyw gyda'n hasiantau gwasanaeth cwsmeriaid neu roi galwad i ni. Ewch i'n tudalen ‘Cysylltu â ni‘ am fwy o wybodaeth.
Bydd eich cyfrif yn dal i fod yn weithredol a byddwch yn gallu gweld eich biliau am hyd at saith mlynedd.
Ond byddem hefyd yn awgrymu eich bod yn lawrlwytho ac yn cadw eich biliau gan y byddwch yn gallu gweld y rhain cyhyd ag y bydd angen i chi wneud hynny.
Gallwch weld eich biliau drwy ddewis y botwm 'Gweld biliau di-bapur, taliadau a llythyrau' ar eich dangosfwrdd.
Bydd hyn yn eich cyfeirio at grynodeb eich cyfrif a fydd yn dangos eich holl filiau diweddar.
Na, nid yw'n bosibl newid swm eich debyd uniongyrchol ar-lein. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i addasu:
- Dyddiad / diwrnod debyd uniongyrchol
- Amlder debyd uniongyrchol
- Manylion y banc rydych chi'n ei ddefnyddio i dalu
Sylwch y bydd diwygio'r manylion hyn yn achosi i'ch debyd uniongyrchol ail-gyfrifo.
Os ydych am newid swm eich debyd uniongyrchol, cysylltwch â ni i drafod hyn.
Dim ond ar adegau penodol drwy gydol y flwyddyn y mae angen darllen mesuryddion, ac ar hyn o bryd nid oes angen darlleniad arnom. Pan fydd angen darlleniad cyfredol arnom, bydd eich panel darllen mesurydd yn eich dangosfwrdd yn gofyn am eich darlleniad diweddaraf.
Os hoffech ddiweddaru eich cyfeiriad e-bost, gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio ein ffurflen newid cyfeiriad e-bost yma.
Sylwer, gall gymryd hyd at 10 diwrnod i brosesu eich cais am newid cyfeiriad e-bost.
Os ydych chi eisiau cysylltu â ni oherwydd eich bod chi'n cael trafferth defnyddio'ch Fy Nghyfrif, cliciwch ar ein tudalen Cysylltu â Ni.
Bydd eich dangosfwrdd yn dangos unrhyw broblemau hysbys yn eich ardal. Os hoffech chi roi gwybod am broblem nad yw'n dangos ar eich dangosfwrdd, gellir gwneud hyn yma.
Helpwch ni i wella'r gwasanaeth hwn
Rhowch wybod i ni os na atebwyd eich ymholiad fel y gallwn ei wella yn y dyfodol.
Sylwch fod yr adborth yn ddienw ac ni fyddwn yn ymateb i sylwadau neu amgylchiadau unigol.
Diolch i chi am eich adborth
Rydym yn adolygu ac yn gwella ein gwasanaethau digidol yn gyson, a gwerthfawrogi eich adborth yn fawr.
Os hoffech drafod eich ymholiad gyda ni cysylltwch â ni.