Ein gwasanaeth Fy Nghyfrif ar-lein newydd
Rydym wedi gwrando ar eich adborth ac wedi datblygu gwasanaeth newydd ar gyfer y nodweddion yr ydych chi wedi gofyn amdanynt.
Updated: 09:00 25 November 2024
PWYSIG: Rydym wedi cyhoeddi Hysbysiad Berwi Dŵr sy’n effeithio ar gwsmeriaid sy’n byw yn yr ardaloedd canlynol:
Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Pentre, Ton Pentre, Gelli, Tonypandy
Yn sgi Stom Bert, mae llifogydd helaeth wedi effeithio ar Waith Trin Dŵr Tynywaun yn Nhreherbert.
Mae hyn yn golygu ein bod bellach wedi rhoi hysbysiad ‘berwi dŵr’ rhagofalus i gartrefi yn ardaloedd Blaenrhondda, Blaencwm, Tynewydd, Treherbert, Treorci, Cwm-parc, Pentre, Ton Pentre, Gelli a Thonypandy.
Gofynnwn i bob cwsmer ferwi eu dŵr ar unwaith cyn ei ddefnyddio at ddibenion yfed. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi ond rydym yn gweithio i adfer cyflenwadau yn ôl i normal cyn gynted â phosibl.
Rydym wedi dosbarthu dŵr potel i gwsmeriaid ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth a chartrefi gofal tra hefyd yn gweithio gyda safleoedd allweddol fel ysbytai.
Gall cwsmeriaid wirio a effeithir ar eu cyflenwad trwy ddefnyddio gwiriwr cod post ar ein gwefan: https://www.dwrcymru.com/cy-gb/boil-water-notice
Gall unrhyw gwsmeriaid yr effeithir arnynt gael mynediad at gyngor ar ein gwefan sy'n cynnwys rhestr o Gwestiynau Cyffredin.
Edrychwch ar wefan Yn Eich Ardal neu edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.
Rydym wedi gwrando ar eich adborth ac wedi datblygu gwasanaeth newydd ar gyfer y nodweddion yr ydych chi wedi gofyn amdanynt.